Home Hymns Pa gyffro mawr fu’r dyddiau gynt

Pa gyffro mawr fu’r dyddiau gynt

“Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd.” 
Actau 2:2 (Lloyd  M.C.)

Pa gyffro mawr fu’r dyddiau gynt
Am awel nefol gref
Yn ysgwyd dynion ar eu hynt,
Yn datgan Teyrnas Nef?

Rhyfeddol dân ar weision syn,
Athrylith newydd gaed:
Cyhoeddi’r gair am ben y bryn
A rhin Ei ddwyfol waed.

Y gair am farw Calfari,
Maddeuant am bob bai,
Ac yna’r Atgyfodi fry
I nerthu eiddil rai.

O chwŷth dy wynt, O Ysbryd Glân,
Rho Bentecost i ni,
Ar enaid swrth rho fedydd tân
I sôn am Galfari.

O chwâl y pla sydd ’nawr ar led,
Ac anghrediniaeth du,
A dyro nerth i deulu’r cred
I drechu’r drwg a’i lu.

Dy ras, dy ddawn, dy allu mawr
Yw’n cais – O tyrd ar frys,
A paid â’n gadael ar y llawr
Heb dyst o’th uchel lys.

Read another hymn

ABC
DEF
GHI
JKL
MNO
PQR
STU
VWXYZ
Welsh Hymns

Audio

Access teaching and gospel sermons, bible studies and conference messages. Also included are other sermons, 5 minute messages and audio of other ministers.

Videos

Watch selected videos of Vernon Higham and access our YouTube channel.

About Vernon Higham

Between 1955 and 2016 Vernon Higham served in a distinguished and faithful ministry, most notably as Pastor at Heath Church, Cardiff and as Pastor Emeritus at Tabernacle Cardiff,

Report Playback Issues

We're sorry you're having issues playing the audio files on this site. In order to help us identify the issue, please fill out as much information as you can, we don't need your contact details.