Home Hymns O Fab y Dyn, O Fab Dduw Iôr,

O Fab y Dyn, O Fab Dduw Iôr,

“Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.  Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyflawnhau trwy ei waed ef, y’n h’achubir rhag digofaint trwyddo ef.” 
Rhufeiniaid 5:8,9 (8 10. 10 4)

Cyfieithiad o ‘O Son of Man, O Son of God’ gan Gaenor Roberts (1937-2009)

© W.V.Higham Trust. v.4 gan W. Vernon Higham (b. 1926)

O Fab y Dyn, O Fab Dduw Iôr,
Rhyfeddol gynllun y tragwyddol râs
A ddaeth a chroes a phoen i’th ran – a gwarth
Ein pechod cas.

O Grist y groes, O sanctaidd waed
O fywyd perffaith, hardd heb nam na chwyn,
Cyflawni wnest orchmynion Deddf ein Duw
Oll er ein mwyn.

O gwpan gwarth, O ddrudfawr swydd
Yn derbyn drosof lid sancteiddrwydd Duw
Ac yn fy lle bu farw Crist yr Oen
I mi gael byw.

O gariad Duw, dy ras fel môr,
Fod angau drud a phoenus friw Mab Duw,
Yn talu dyled pechod er fy mwyn.
Diderfyn stôr.

O ryfedd rym llifogydd gwaed
A chariad Crist arllwyswyd drosof fi
O Iesu tirion, dyma wyrthiol ras! –
Moliant i Ti.

Tangnefedd ddaeth trwy waed yr Oen,
Tangnefedd Duw o fewn fy enaid byw
Heddwch i’r galon pan ddaw Ef drachefn.
Fy Nghrist a’m Duw.

Read another hymn

ABC
DEF
GHI
JKL
MNO
PQR
STU
VWXYZ
Welsh Hymns

Audio

Access teaching and gospel sermons, bible studies and conference messages. Also included are other sermons, 5 minute messages and audio of other ministers.

Videos

Watch selected videos of Vernon Higham and access our YouTube channel.

About Vernon Higham

Between 1955 and 2016 Vernon Higham served in a distinguished and faithful ministry, most notably as Pastor at Heath Church, Cardiff and as Pastor Emeritus at Tabernacle Cardiff,

Report Playback Issues

We're sorry you're having issues playing the audio files on this site. In order to help us identify the issue, please fill out as much information as you can, we don't need your contact details.