“Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf”
Galatiaid 4:4 (66.66 D)
O bell y gwelodd fi,
Yn nhragwyddoldeb draw,
Cyn creu, cyn bod, cyn si,
Am greadigaeth ddaw
Ymhell yng nghalon Duw.
Y Drindod oll gytûn
Wrth weled dynolryw
Ac achub euog ddyn.
Fe ddaeth y dydd a’r awr,
I anfon Crist i’r byd.
Y boen, y Groes oedd fawr
I dalu dyled ddrud.
Y ddeddf ni farna mwy
Y ddyled ar y Groes,
A gweld ei farwol glwy’
A’i fywyd glân a roes.
Nawr gobaith daeth i’n bron
Wrth brofi cariad drud,
Fy enaid gwnaeth yn llon,
Rhown glod i Geidwad byd,
Y nefoedd lawenha,
Am ddyfais Duw i ni,
Gogoniant a barha
A’n gorfoleddus gri.


