“Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeus.”
Ephesiaid 5:27 (Llwynbedw 87.87.47)
[Cyfansoddwyd ar gyfer priodas Alun a Helen Higham]
Arglwydd Iesu, gwrando weddi
Dros y briodas brydferth hon.
Rho dy bresenoldeb inni,
Gwna gyfamod gref yn llon.
Yn eu dyddiau,
Yn eu dyddiau,
Bydd yn gwmni diwahân.
Arglwydd Iesu, derbyn gynnig,
Tyrd i’n plith a gwêl dy le,
Ti y pennaf gwahoddedig,
Llanw’r lle â blas y ne’.
Mawr ein moliant,
Mawr ein moliant,
O’th gael Di, mewn hyfryd wledd.
Arglwydd Iesu, O mor felys
Yw dy gwmni ar y daith.
Pererindod anrhydeddus
Fydd eu ffordd drwy’r anial maith.
Yn dy gwmni,
Yn dy gwmni,
Gyda’th ras a chariad pur.
Arglwydd Iesu, llawn grasusau,
Arddel addewidion nawr
Teulu’r nef a’th deulu dithau
Ger dy fron mewn sanctaidd awr.
Pêr gyfamod,
Pêr gyfamod,
Trefniant Duw i deulu dyn.


