“Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn lachawdwriaeth i bob dyn”
Titus 2:11 (66.66 D)
Addolwn Dduw ein Iôr,
Am Ei drugaredd Ef.
A chariad fel y môr
A’i dyner drefn o’r Nef.
Pa ryfedd ras all fod,
Yn cyrraedd dyn di-ras
I’w dirion drefn mae’r clod
Yn difa pechod cas.
Yr Iesu oedd ei Fab
Y dewisiedig Un.
A chynllun heb nacád
Yn cyrraedd euog ddyn.
Nid oes ei debyg Ef
Yn anfon Crist i’r byd.
Yn Ei ewyllys gref
I’n dwyn i’r nefoedd glyd.
Clod, clod i’w Enw mawr,
O bellder daear drist.
A grym Ei galon fawr
Yng nghalon Iesu Grist.
Achubiaeth llawn, sydd gan
Fy enaid bellach mwy
A’r nefoedd yw fy rhan
Trwy gariad farwol glwy.


